Cwestiynau Cyffredin
Allwch chi ddarparu ar gyfer gofynion dietegol penodol?
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer unrhyw alergeddau/gofynion dietegol. Rhowch ganiad i ni i drafod unrhyw anghenion.
A allaf gadw bwrdd?
Yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn byddwn yn cynnig gwasanaeth archebu bwrdd nes byddwch yn clywed yn wahanol. Cysylltwch â ni i archebu.
Ydych chi’n cynnig gwasanaeth danfon?
Rydym yn cynnig gwasanaeth danfon cyfyngedig i helpu’r rhai sy’n methu ein cyrraedd ni. Fodd bynnag, rydym yn gyfyngedig o ran faint o nwyddau y gallwn eu danfon a phryd y gallwn eu cynnig, felly gofynnwn i bobl ddod i gasglu nwyddau os gallent.
Faint o rybudd sydd ei angen arnoch ar gyfer eich te prynhawn?
Er ein bod yn gallu cymryd archebion te prynhawn ar y diwrnod o bryd i’w gilydd, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Felly, cynghorir i chi archebu te o leiaf 24 awr ymlaen llaw er mwyn osgoi siom.