CWESTIYNAU CYFFREDIN

Croeso i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin. Yma fe welwch chi atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am ein caffi, bwydlenni, talebau … a mwy.

Allwch chi ddarparu ar gyfer gofynion dietegol penodol?

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer unrhyw alergeddau/gofynion dietegol. Rhowch ganiad i ni i drafod unrhyw anghenion. 

Ydw i’n gallu bwcio bwrdd?

Dim os ydych chi’n grŵp o 6 neu fwy neu eisiau te prynhawn y mae angen i chi fwcio bwrdd.

Faint o rybudd sydd ei angen arnoch chi ar gyfer eich te prynhawn?

Er ein bod ni weithiau’n derbyn archebion ar gyfer ein te prynhawn ar y diwrnod, dyw hyn ddim bob amser yn bosibl. Felly, cynghorir eich bod yn archebu te o leiaf 24 awr ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.

Ydych chi'n arlwyo ar gyfer digwyddiadau, gan gynnwys cyfarfodydd, penblwyddi, angladdau a phartïon cyn geni babi?

Rydyn ni’n darparu ar gyfer pob math o ddigwyddiadau. Ffoniwch ni neu anfonwch e-bost aton ni i drafod eich anghenion a byddwn yn hapus i helpu neu ateb unrhyw un o’ch cwestiynau.