Amdanom

Gallwn warantu croeso cynnes Cymreig i chi yn Pennau Craft and Coffee Shop, busnes teulu trydedd genhedlaeth yng nghalon cefn gwlad Cymru.

Ein nod yw darparu dewis eang o fwyd a diod o ffynonellau lleol, gan gynnig bwydlen helaeth o fwyd cartref drwy gydol y dydd. Mae gan ein bwyty le i 64 eistedd dan do, gyda seddau ychwanegol y tu allan a digonedd o gyfleusterau parcio. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth tecawê o fwyd melys/sawrus a diodydd poeth/oer.

Beth am gyfuno eich ymweliad gyda thipyn o bori o amgylch ein detholiad eang o anrhegion? Fel busnes, rydym yn ymroi i arddangos crefftau a nwyddau Celtaidd unigryw, o ffynonellau lleol ac o bob rhan o Gymru.

Rydym am i’n cwsmeriaid adael gydag argraff gadarnhaol o’r hyn sydd gan y wlad wych hon i’w gynnig – fel y byddwch yn dychwelyd dro ar ôl tro! P’un a ydych yn lleol, ar wyliau neu ddim ond yn pasio drwy’r ardal, mae ein cwsmeriaid yn sôn yn gyson am yr awyrgylch cynnes, cyfeillgar a hamddenol sydd yma.